Maps@Conwy
Sut i ddefnyddio system fapio ar-lein Conwy
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys
Swyddogaethau map ychwanegol
Gan ddefnyddio'r ddewislen swyddogaethau Map, mae camau gweithredu ychwanegol ar gael, mae'r rhain yn cynnwys;
Llun sgrin o ddewislen swyddogaethau map ychwanegol
  1. Bydd y mapio yn cofio safleoedd olaf y map, mae'r botwm hwn yn eich galluogi i fynd yn ôl i'r safleoedd hyn.
  2. Os ydych wedi defnyddio'r botwm gweld Blaenorol i ddychwelyd i safle map blaenorol, yna bydd y botwm gweld Nesaf yn symud ymlaen trwy safleoedd y map.
  3. Ailosod y map i ffiniau’r sir ond yn gadael y chwiliadau cyfredol yn weladwy (yn amodol ar gyfyngiadau chwyddo)
  4. Cael gwared ar unrhyw chwiliad cyfredol.
  5. Yn ailosod y map i eithafion y sir ac mae'n dileu unrhyw ganlyniadau chwilio cyfredol.
  6. Argraffu'r map cyfredol i naill ai PDF A4 ‘Portrait’ neu ‘Landscape’.
  7. Bydd hyn yn e-bostio dolen gyswllt o'r map cyfredol, gan gynnwys unrhyw chwiliadau agored, i rywun arall.
  8. Cadw’r map cyfredol naill ai mewn ffeil delwedd PNG neu JPG.
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys