Maps@Conwy
Sut i ddefnyddio system fapio ar-lein Conwy
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys
Dod o hyd i gyfleusterau'r cyngor
Mae’r ddewislen hon yn eich galluogi i ganfod nifer o wahanol fathau o wybodaeth y cyngor. Yn hytrach na chael un rhestr faith, mae’r wybodaeth wedi’i rhannu yn rhestrau llai. Os oes gan eitem saeth ar yr ochr dde mae’n golygu bod rhestrau ychwanegol (neu opsiynau chwilio) ar gael. Sylwer bydd y rhestrau hyn yn newid dros amser wrth i Gonwy wella’r system ond bydd y dull sylfaenol yr un fath.
Llun sgrin o’r ddewislen canfod cyfleusterau’r cyngor
Yn y darlun uchod gallwch weld bod modd canfod Ceisiadau Cynllunio dan y dewis yr Amgylchedd Lleol. Mae nifer o opsiynau chwilio ar gyfer Ceisiadau Cynllunio hefyd, mae’r rhain yn llwyd ar y darlun hwn gan eu bod ar gael ar lefelau chwyddo penodol yn unig.
Enghraifft o ddod o hyd i gyfleusterau'r cyngor
Ar gyfer yr enghraifft hon byddwn yn edrych ar ddod o hyd i Gynghorydd.

Cliciwch ar ddewislen ‘Dod o hyd i Gyfleusterau’r Cyngor’ ac yna symudwch eich saeth dros yr opsiwn Democratiaeth, symudwch eich saeth i’r dde a dewis yr opsiwn Cynghorwyr, bydd hyn yn arddangos y blwch ‘Dod o hyd i Gynghorydd’ fel y dengys isod;
Llun sgrin o flwch deialog canfod cynghorydd
Nesaf, mae angen i chi ddweud wrth y map sut yr hoffech chwilio am gynghorydd, gwneir hyn trwy glicio ar y blwch sy'n dweud 'Dewiswch ...', dangosir y dewisiadau canlynol;
Llun sgrin o ddewislen opsiynau chwilio
Mae'r un egwyddor yn berthnasol i’r chwiliadau am gyfleusterau’r cyngor o ran bydd nifer o opsiynau chwilio ar gael ar gyfer pob categori o’r cyfleuster.

Bydd y canlyniadau sydd ar gael ar gyfer pob cyfleuster cyngor yn wahanol gan fod hyn yn dibynnu ar faint o wybodaeth sydd ar gael ar gyfer y cyfleuster ar yr adeg honno. Rhagwelir bydd faint o wybodaeth sydd ar gael yn cynyddu wrth i'r system ddatblygu.
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys