Maps@Conwy
Sut i ddefnyddio system fapio ar-lein Conwy
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys
Chwyddo i mewn ac allan
Yn nhop cornel chwith ffenestr y map fe welwch y rheolaethau chwyddo, mae'r rhain yn cynnwys;
Llun sgrin yn dangos cyfleuster rheoli chwyddo
  1. Botwm Chwyddo i Mewn
  2. Llithrydd chwyddo
  3. Botwm Chwyddo Allan
  4. Botwm Chwyddo i Betryal
Bydd clicio ar y botymau Chwyddo i mewn neu allan yn symud y map i'r lefel chwyddo ddiffiniedig nesaf, yn fwy neu’n llai na'r hyn a welwch ar hyn o bryd. Mae'r llithrydd chwyddo yn eich galluogi i glicio a llusgo’r llithrydd i fyny ac i lawr yr ystod o lefelau chwyddo sydd ar gael. Bydd clicio ar y botwm chwyddo i ardal ddiffiniedig yn eich galluogi i dynnu petryal ar y map lle bydd y map yn chwyddo arno.
Sylwch, yn ogystal â defnyddio'r rheolaethau chwyddo, os oes gennych un, gallwch ddefnyddio olwyn y llygoden i chwyddo i mewn ac allan.
Nodyn pwysig
Dylech fod yn ymwybodol y gall chwyddo i mewn neu allan ormod o lefelau ar yr un pryd achosi i'r system i arafu ac mewn rhai amgylchiadau rewi.
Symud o amgylch y map
Y dull diofyn ar gyfer y map yw 'tremio'. Pan fydd yn y modd tremio, mae cyrchwr y llygoden yn edrych fel croes fertigol gyda saethau ar bob pen, fel hyn;
Delwedd o gyrchwr llygoden ar y sgrin mewn dull tremio
Pan fydd yn y modd tremio hefyd, gallwch glicio ddwywaith ar fotwm chwith y llygoden, bydd hyn yn gwneud i’r map chwyddo i'r lefel chwyddo ddynodedig nesaf, gan ail-ganoli’r map ar safle’r cyrchwr pan fyddwch yn clicio ddwywaith.
Pan ddangosir y ffenestr Trosolwg, os symudwch gyrchwr y llygoden dros y ffenestr, bydd yn newid i groes fertigol soled fel hyn;
Delwedd o gyrchwr llygoden ar y sgrin yn y  ffenestr trosolwg
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys