Maps@Conwy
Sut i ddefnyddio system fapio ar-lein Conwy
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys
Dod o hyd i gyfeiriad
Mae'r rhyngwyneb mapio yn gysylltiedig â Rhestr Tir ac Eiddo Lleol (LLPG) Conwy sy'n gronfa ddata gynhwysfawr o'r holl eiddo preswyl a masnachol o fewn y sir.

Bydd clicio ar yr opsiwn dewislen ‘Dod o hyd i gyfeiriad' yn caniatáu i chi chwilio LLPG Conwy.

Bydd dewis yr opsiwn hwn yn dangos blwch ar y sgrin gyda’r teitl 'Dod o hyd i gyfeiriad'. Cliciwch tu mewn i'r blwch testun sy’n gofyn 'Rhowch fanylion y cyfeiriad' ac yna rhowch ran o gyfeiriad neu un cyfan. Er enghraifft, bydd rhoi 'Bodlondeb Bangor Road' yn dychwelyd 3 cyfeiriad sy'n cyfateb i'r meini prawf hynny. Ond bydd rhoi 'LL32 8DU' i mewn yn dychwelyd 1 cyfeiriad yn unig.
Llun sgrin o’r blwch deialog canfod cyfeiriad
  1. Botwm canslo chwilio
  2. Blwch rhowch fanylion y cyfeiriad
  3. Botwm dod o hyd i gyfeiriad

Nodyn pwysig
Sylwch weithiau bydd rhoi manylion cyfeiriad sy'n rhy benodol yn methu. Mae'n well dechrau’n eithaf syml ac yna mireinio eich chwiliad yn seiliedig ar y canlyniadau.
Dychwelyd i’r dudalen gynnwys